Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2016
Amser: 09.02 -
11.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3383
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC David Rees AC (yn lle Julie Morgan AC) |
Tystion: |
Gareth Bullock, Cyllid Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Mark Jones (Swyddfa Archwilio Cymru) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 311KB) Gweld fel HTML (351KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan. Roedd David Rees yn dirprwyo.
2.1 Nodwyd y papur. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys argymhelliad yn ei Adroddiad Etifeddiaeth bod y Pwyllgor olynol yn ystyried cynnal ymchwiliad i'r pwnc hwn.
3.1 Nododd yr Aelodau yr ymatebion a chytunwyd i gynnwys argymhelliad yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor bod y Pwyllgor olynol yn gofyn am ddiweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed yn ystod hydref 2016.
3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch cymhlethdod gosod Band Eang (R1), y gost bosibl yn ychwanegol at werth y talebau sydd ar gael (R2), beth mae 'deinamig' yn ei olygu i'r defnyddiwr (R8), a disgrifiad o sut y gellir gwella'r wefan.
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, a Gareth Bullock, Cadeirydd Cyllid Cymru plc, ar Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.
4.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:
· Rhoi eglurhad ynghylch cyfansoddiad y panel dethol, pryd y cafodd penodiadau'r panel cynghori eu gwneud, a nifer yr aelodau a benodwyd o du allan i Gymru;
· O fewn Llywodraeth Cymru, gofyn a ddylid rhannu'r cyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio â chyrff hyd braich;
· Cadarnhau lefel y cyllid grant a gynigiwyd i ReNeuron; ac
· Eglurhad ynghylch a gafodd cofnodion llawn eu cymryd yng nghyfarfodydd WIDAB ar 18 Mehefin 2013 a 24 Hydref 2013.
4.3 Cytunodd Gareth Bullock i ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ffioedd trefnu sy'n daladwy i Reolwyr y Gronfa gan Gwmnïau Buddsoddi.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Am fod amser yn brin, cytunodd yr Aelodau i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod ar 15 Mawrth 2016.